Advert
Tŷ Bach Twt- Carafan mewn cwr o fynydd
Carafan ar gael yng Ngorllewin Gwyllt Cymru dros Hanner Tymor ac o hyn tan y Nadolig yn agos at Ty Ddewi. Yn gynwysiedig yn y pris – AM DDIM: awyr iach, crwydro’n ddi-ddiwedd, lleoliad bendigedig, tonnau anhygoel (ac mae’r mor yn hynod o gynnes amser yma’r flwyddyn) tawelwch meddwl a siawns o weld ffesantod, moch daear, llwynogod, cwningod, ambell i gudull coch, ponis gwyllt, morloi a’u lloi.
Stafell gwely dwbl, stafell dau wely sengl, soffa sy'n trawsnewid mewn i wely dwbl yn y lolfa, stafell gawod a thy bach, cegin gyda phopty, popty ping, tostiwr, ffrij, haearn smwddio. Lolfa gyda golygfa wych o Carn Llidi, teledu a dvd mewn un. Traeth deg munud ar dreod dwy funud mewn car. £60 y noson ar wahan i benwythnosau a gwyliau ysgol. Dwi'n fodlon gostwng y pris yn ystod y wythnos pan nad yw hi'n adegau prysur.
Cysylltu:
Hysbysebwyd ers: 17 Hydref 2011


