PressRelease
Dyddiad erthygl: 10 Hydref 2011
Hanner Tymor yr Hydref
Hwyl, Sbort a Sbri yn Gymraeg Dros Hanner Tymor
‘Dewch i chwarae dros wyliau hanner tymor’. Dyna’r neges gan Fenter Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerdydd gyda sesiynau chwarae am ddim, gweithdai amrywiol a gofal plant ar draws y ddinas dros gyfnod hanner tymor Hydref – i gyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Mae’r gweithgareddau hanner tymor yn dilyn patrwm o gyfleoedd tu allan i oriau ysgol lle gall plant y ddinas fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn Gymraeg. Yn ystod hanner tymor rydym yn amcangyfrif y bydd dros 700 o blant yn manteisio ar yr amrywiaeth eang o gyfleoedd y bydd Menter Caerdydd yn eu darparu. Bydd sesiynau Chwarae am ddim bob dydd yn Sblot, Caerau, Y Tyllgoed a Llanedyrn; Gofal Plant trwy’r dydd yn Yr Eglwys Newydd a Threganna a hefyd amrywiaeth eang o weithdai gan gynnwys Rafftio, Coginio, Drama, Gymnasteg, Celf a llawer iawn mwy.
Dywed Sian Lewis (Prif Swyddog Menter Caerdydd) “Mae’n hanfodol bod cyfleoedd ar gael yng Nghaerdydd i blant ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i oriau ysgol mewn awyrgylch gymdeithasol a hwyliog. Mae’r cyfleoedd rydym ni’n eu cynnig ar y cyd gyda Chyngor Caerdydd yn sicrhau bod cannoedd yn cael y cyfle i siarad Cymraeg yn ystod y gwyliau”.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan newydd Menter Caerdydd www.mentercaerdydd.org neu ffoniwch Awel Davies ar 029 2068 9888


