Help / Cymorth
facebook.png twitter.png you tube icon

PressRelease

Dyddiad erthygl: 18 Mai 2011

Chwarae Rhydd i blant trwy gyfrwng y Gymraeg

 



Chwarae Rhydd i Blant Trwy Gyfrwng y Gymraeg

 

Mae plant Caerdydd wedi mwynhau chwarae rhydd trwy gyfrwg y Gymraeg yn ystod gwyliau’r Pasg.

Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Dinas Caerdydd i ddatblygu cyfleuoedd chwarae rhydd i blant trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod pob gwyliau ysgol.

Cynhaliwyd pedair sesiwn chwarae rhydd Cymraeg newydd wedi eu trefnu gan Fenter Caerdydd y Pasg hwn yn Splott, Caerau, Tyllgoed a Llanederyn. Bu dros 150 o blant rhwng pump a 15 oed yn mwynhau gweithgareddau Chwarae Rhydd yn cynnwys chwaraeon, celf a chrefft, coginio, paentio wynebau, barbiciw, ac ystod eang o weithgareddau eraill.

Fel yr esbonia Siân Lewis, Prif Swyddog Menter Caerdydd:  “Mae’r Cyngor wedi ymateb i ofynion cynyddol gan blant a rhieni ar gyfer darparu chwarae rhydd trwy gyfrwng y Gymraeg  a diolch i gefnogaeth Cyngor Caerdydd rydym wedi gallu datblygu’r gwasanaeth pwysig hwn.”