Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Trefnir Bwrlwm, ein gwasanaeth chwarae agored gwyliau, mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd.

Trefnir y gweithdai gwyliau mewn partneriaeth rhwng Menter Caerdydd, Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Chyngor Caerdydd.

Mae’r archebion yn cael eu gweinyddu yn ystod oriau swyddfa yn unig: 9am-5pm Llun-Gwener (ag eithrio diwrnodau Gŵyl Banc) 

Bwrlwm

Mae Cynllun Chwarae Mynediad Agored Bwrlwm yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod pob gwyliau ysgol (heblaw Nadolig) mewn 6 o leoliadau, i'w cadarnhau yn agosach at y dyddiad. Wedi'i anelu at blant oedran cynradd ac am ddim i blant sy'n mynychu, mae'n gynllun cynhwysol ac yn anelu at greu awyrgylch o ddychymyg i blant ar draws Caerdydd. Byddwn yn cynnig llwyfan cyffrous i blant ymgysylltu mewn chwarae creadigol, archwilio eu dawn a sefydlu cyfeillgarwch barhaus)! Mae Menter Caerdydd yn ymrwymo i feithrin cymuned fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi llesiant a datblygiad plant, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pris: Am Ddim