Erthygl Newyddion
Dyddiad erthygl: 3 Chwefror 2012
Pawb a'i Farn
Mi fydd rhaglen Pawb a'i Farn, BBC Cymru yn ymweld â Chaerdydd nos Iau, 9fed Chwefror 2012.
Gofynnwn i'r gynulleidfa i gyrraedd Y Senedd, Bae Caerdydd am 7.30pm lle ddarperir lluniaeth ysgafn. Byddwn yn darlledu yn fyw ar S4C rhwng 9.00pm-10.00pm.
Dewi Llwyd fydd yn llywio'r drafodaeth, ac ar y panel mae
-
Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin de Cymru.
-
Y Parch. Ddr Felix Aubel.
-
Dr Carol Bell, arbenigwr yn niwydiant olew.
-
ac un arall i'w gadarnhau.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o'n cynulleidfa, gofynnwn i chi gofrestru am docyn trwy gysylltu â Gethin ar 01352 754212, neu e-bostio gethin@momentwm.com
Bellach mae Pawb a'i Farn wedi ymuno a Twitter - dilynwch ni ar @PawbAiFarn


