Erthygl Newyddion
Dyddiad erthygl: 26 Ionawr 2012
Ysgol Win
Eisiau gwybod mwy am win?
Eisiau gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng Chablis a Chenin, Chateauneuf a Chinon?
Yna dewch i’r ysgol win gyntaf erioed drwy gyfrwng y Gymraeg! Byddwn yn edrych ar sut mae grawnwin yn cael eu tyfu, sut mae gwin yn cael ei wneud, ac yn bwrw golwg fanwl ar ranbarthau clasurol Ewrop a gwinoedd hynod y Byd Newydd. Heb anghofio Siampaen a gwinoedd melys, wrth gwrs!
Byddwch hefyd yn dysgu sylfeini sut i baru bwyd a gwin, ac yn gallu dehongli rhestr win bwyty fel hen law erbyn diwedd y cwrs.
Cynhelir gan Shôn Williams, colofnydd gwin cylchgrawn Barn. Dosbarthiadau ar nosweithiau Llun, 20 Chwefror yn para am 6 wythnos rhwng 7.30 p.m. a 9.30 p.m. yn siop Houghton Wine Co yng nghanol pentref Rhiwbeina. Pris yw £120 yn cynnwys popeth. Does dim angen gwybodaeth nag arbenigedd ymlaen llaw, dim ond brwdfrydedd i wybod mwy. Diddordeb? Cysylltwch â williamsshon@ymail.com i gadw eich lle.


