Erthygl Newyddion
Dyddiad erthygl: 19 Ionawr 2012
Manylion y digwyddiad
Pryd: 25 Ionawr 2012, 20:00 - 22:00
Ble: Minsky's Showbar, Cathedral Walk
Bei-Ling - Burlesque – 2012
Dewch i ddathlu Dydd Santes Dwynwen a mwynhau noson amrywiol fyrlymus yn Minsky’s Showbar, Caerdydd yng nghwmni
Olwen Arianrod
Miss Oopsy-Daisy
Miss Cherry Box
Heather Jones
Flamenco Zambra
Kathy Saxondale
Siân Hawthorn
a Emilie Joy
Cynhyrchwyd gan Heledd Bianchi
Cyfarwyddwyd gan Diana Bianchi
Gan ddilyn llwyddiant cynhyrchiad cyntaf Theatr Bwcibo o Bei-Ling Burlesque yn 2008, rydym yn dychwelyd i’r llwyfan â chynhyrchiad lliwgar newydd o’r sioe. Mae rhai o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd ac rhai newydd.
Mae llawer o bobl yn credu bod Burlesque yn ymwneud â menywod noeth yn cerdded ar draws y llwyfan i guriad rhywiol drymiau. Dyna sut yr oedd pan ddechreuodd y sioeau hyn ddirywio yn ystod dauddegau a thridegau'r ganrif ddiwethaf, ond yr oedd y sioeau’n hollol wahanol pan oedd yr adloniant ar ei anterth. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sioe ‘Burlesque’ yn amrywiol iawn, yn defnyddio cerddoriaeth, dawns a chomedi oedd yn dychanu’r gymdeithas gyfoes. Defnyddiant hefyd berfformwyr amrywiol fel jyglwyr, dewinoedd, acrobats a taflwyr cyllyll. Roedd y cyfan yn cael ei drefnu a’i berfformio gan fenywod yn unig.
Gallwch brynnu Tocynnau am £5 drwy cysylltu naill ai a Minsky's ar 029 20213288 neu trwy gysylltu a fi ar 07429 090265


