Advert
Yn eisiau- Nani Cymraeg
Rydym yn chwilio am berson cariadus, amyneddgar a gweithgar, sy’n llawn egni a hwyl, i edrych ar ol ein dwy ferch fach (efeilliaid 18 mis oed) a’u cadw’n ddiogel. Byddai meddu ar gymwysterau gofal plant yn fanteisiol, ond mae bod ag agwedd aeddfed neu brofiad o ofalu am blant ifanc yr un mor bwysig.
Rydyn ni'n deulu cyfeillgar, yn byw yn Ne Orllewin Llundain (ger Wimbledon) a’r ddau riant yn gweithio yn broffesiynol.
Swydd lawn amser, byw i mewn yw hon, a bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad. Bydd angen i'r nani weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni'n cynnig stafell wely gyda theledu a chyswllt Wifi, ac ystafell ymolchi ar gyfer y person cywir. Byddwn ni'n gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r profion CRB perthnasol.
Cysylltu: I ymgeisio, neu i holi am fanylion pellach cysylltwch ac Afonwen ar 07900 001239 neu afonwen@fastmail.fm
Hysbysebwyd ers: 16 Ionawr 2012


