Help / Cymorth
facebook.png twitter.png you tube icon

Cefndir

Cefndir

Cefndir

Sefydlwyd Menter Caerdydd yn mis Mehefin 1998, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd drwy greu cyfleoedd i drigolion y ddinas ddefnyddio’r iaith tu allan i oriau gwaith a muriau’r ysgol. Mae Menter Caerdydd yn Elusen Gofrestredig (1098606) ac yn Gwmni Cyfynedig drwy warrant (4576565). 

Mae’r Fenter yn weithgar yn y meysydd isod:

  1. Clybiau wythnosol i blant drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd.
  2. Cyfleoedd Chwarae am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.
  3. Cynlluniau Gofal gwyliau drwy’r Gymraeg.
  4. Gweithdai amrywiol i blant yn ystod gwyliau’r ysgol.
  5. Cyfleoedd wythnosol, penwythnosol ac yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol i bobl ifanc drwy’r Gymraeg.
  6. Gweithgareddau Cymdeithasol i Ddysgwyr.
  7. Cyfleoedd Cymdeithasol i Deuluoedd.
  8. Pecyn dysgu anffurfiol wythnosol ac un-dydd i Oedolion
  9. Tafwyl – Gwyl Gymraeg Caerdydd
  10. Ffonlyfr
  11. Cadeirio Fforwm Iaith Caerdydd
  12. Cyswllt Cymraeg ar sawl pwyllgor yn y sector gwirfoddol, preifat a chyhoeddus

 

Rydym yn gwireddu ein gwasanaethau drwy weithio mewn partneriaeth gyda nifer helaeth o fudiadau Cymraeg Caerdydd yn ogystal â phartneriaid di-Gymraeg y Ddinas. Un o brif bartneriaid Menter Caerdydd yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Sir Caerdydd sydd yn gyfrifol am ariannu nifer helaeth o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig drwy’r Gymraeg yn y Ddinas.