Trefnir Bwrlwm, ein gwasanaeth chwarae agored gwyliau, mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd.
Trefnir y gweithdai gwyliau mewn partneriaeth rhwng Menter Caerdydd, Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Chyngor Caerdydd.
Mae’r archebion yn cael eu gweinyddu yn ystod oriau swyddfa yn unig: 9am-5pm Llun-Gwener (ag eithrio diwrnodau Gŵyl Banc)
Gweithdy Gwobr CREST mewn diwrnod 3/4/24
Cyfle arbennig i blant Blwyddyn 5 a 6 i gael profiadau arbennig mewn gweithdy STEM yn PDC, a chael cymhwyster CREST ar y diwrnod.
Dilynwch y ddolen QR i gofrestru.
Pris: Am Ddim
Cofiwch Dryweryn
Dere i Bwrlwm i weld y Sioe Cofiwch Dryweryn! Ysgol fach, llawn bwrlwm, gyda plant bendigedig, oedd Ysgol Celyn ym mhentre’ Capel Celyn. Martha Roberts oedd y Brifathrawes wnaeth gloi drws yr ysgol am y tro olaf ym mis Gorffennaf 1963.
Yng nghwmni Martha fe glywn ni'r stori am y daith o Gwm Celyn i Lerpwl; am y peiriannu mawr wnaeth chwalu waliau’r ysgol, ac am ymdrechion dewr y trigolion lleol. Ond er taw ofer fu’r ymdrech, daw gobaith ar ddiwedd y sioe wrth i Martha annog y plant i ddal yn dynn yn y stori, yn union fel wnaeth hi ddal ei gafael ar oriad Ysgol Celyn.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro!
Pris: Am Ddim
Bwrlwm Pasg 2024
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn trefnu Bwrlwm Pasg 2024! Byddwn yn rhedeg y cynllun chwarae, sydd am ddim i bob plentyn Dosbarth Derbyn - Blwyddyn 6, yn y lleoliadau yma! Pa leoliad sydd agosach i chi? Fel arfer, mae'r arlwy sy'n cael ei drefnu yn eang ym mhob lleoliad, sef celf a chrefft, chwaraeon, gemau, byrbrydau iach ayyb. Mi fydd sesiynau chwaraeon mwy penodol yn Ysgolion y Berllan Deg, Bro Eirwg ac Hamadryad, a chwarae meddal yn Ysgolion Glan Morfa a Coed y Gof.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth pellach yn ystod y gwyliau ar FB, Insta a Trydar/X!
Am faterion anghenion cefnogi cysylltwch gyda mari@mentercaerdydd.cymru
Pris: Am Ddim