Warning: include(penawd.php) [function.include]: failed to open stream: No such file or directory in /homepages/24/d303207035/htdocs/cymraeg/treftadaeth0.php on line 58

Warning: include() [function.include]: Failed opening 'penawd.php' for inclusion (include_path='.:/usr/lib/php5') in /homepages/24/d303207035/htdocs/cymraeg/treftadaeth0.php on line 58

Treftadaeth y Gymraeg

Teithlyfr a thaith gerdded Twristiaeth.

Gyda chefnogaeth gan gronfa’r Loteri, mae Menter Caerdydd wedi bod yn datblygu taflen dwristiaeth yn olrhain datblygiad yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.

Ar yr 8fed o Orffennaf, 2008, bydd Menter Caerdydd yn lansio taflen dwristiaeth gyda thaith gerdded.

Am 6 o’r gloch yr hwyr fe fydd gwahoddedigion / cyhoedd yn ymgynnull yn y dafarn Tair Pluen. Mi fydd Dr. John Davies yn tywys y cyhoedd o amgylch canol y ddinas am oddeutu awr a hanner.

Bydd y daith yn mynd heibio rhai o leoliadau mwyaf hanesyddol y ddinas a’u perthynas gyda datblygiad yr iaith yng Nghaerdydd drwy’r oesoedd.

Yn dilyn y lansiad mi fydd y daflen a phodcast o’r daith ar gael i’w lawr lwytho o wefan Menter Caerdydd.
Hyd yn oed os ydych chi’n byw yn y ddinas neu yn ymweld rydych chi’n siŵr o ddysgu rhywbeth….

Mi fydd y taflenni yn cael eu dosbarthu i ysgolion a’r cyhoedd yn dilyn y lansiad.

Mi fydd Menter Caerdydd yn cynnal lansiad arbennig ar yr 8ed o Awst am 11o’r gloch y bore yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni hefyd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a:

Heledd Wyn
Swyddog Treftadaeth
Menter Caerdydd
(029) 20 565658 / 07765234055

Trywydd y Gymraeg yng Nghaerdydd

 

 

 

Taith Gerdded Caerdydd

 

Newyddion Mawrth

t

Mae Heledd Wyn wedi dechrau ar y swydd fel Swyddog Treftadaeth ac yn gweithio ar 4 brosiect penodol dros y ddwy flynedd nesaf:

1  gweithdai Ysgolion—ymweld  a ysgolion Di-Gymraeg yn y Ddinas drwy gynnal gweithdai Ymwybyddiaeth Iaith;

2  creu taflen dwristiaeth a fydd yn tywys y cyhoedd o amgylch mannau sy’n olrhain datblygiad yr Iaith Gymraeg yn y ddinas;

3  creu cyfeirlyfr o ddogfennau am y Gymraeg yng Nghaerdydd;

4  casglu hanesion llafar a chreu ffilm fer sy’n olrhain hanes yr Iaith a’i datblygiad dros yr hanner can mlynedd diwethaf.

 

t

 

t

 

Ymweliadau Ysgolion
Di-Gymraeg Caerdydd
Radur a Glyn Derw

 

 

 

E-bost: heledd@mentercaerdydd.org

 

Ers cychwyn y swydd, sefydlwyd Is-Bwyllgor Treftadaeth y Gymraeg yng Nghaerdydd, sef:

Elin Jones (Hanesydd)

Rhun Jones

Cen Williams

Nia Williams (Sain Ffagan)

Penri Williams

Rhodri Williams

Mae’r Swyddog yn eiddgar i dderbyn unrhyw wybodaeth neu hanesion gan aelodau o’r pwyllgor a’r cyhoedd.

Ysgol Howells
Gweithdy Iaith yn Ysgol Howells Tachwedd 2008

 

Ysgol Gyfun Radyr

Gweithdy Iaith yn Ysgol Gyfun Radyr Tachwedd 2008

Menter Caerdydd
42 Lambourne Crescent
Parc Busnes Caerdydd
Llanisien

Caerdydd
CF14 5GG
029 20689888
 Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Sir Caerdydd

Menter Caerdydd - Elusen gofrestredig rhif: 1098606 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 4576565

Eglwys Newydd Sblot Rhiwbeina Trefynach Mynydd Bychan Creigiau Trelai Llandaf Tyllgoed Rhymni Penylan Pontcanna Cathays Y Rhath Gabalfa Gwaelod y Garth Tongwynlais
Pentyrch Y Bae Llaneirwg Treganna Llysfaen Radyr Pentrepoeth Rhydlafar Pentwyn Cyncoed Pontprennau