Calendr y Dinesydd, Ebrill Awst 2008
Mawrth, 1 Ebrill
Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: ‘Brethyn Cartref’ am 7.30pm.
Mercher, 2 Ebrill
Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. Brethyn Cartre, yng nghwmni Myfanwy Jarman a Gwen Môn Holt. Yn festri Capel y Methodistiaid Saesneg, Windsor Road, Radur, am 7.30pm.
Sul, 6 Ebrill
Taith Gerdded ym Mae Caerdydd yng nghwmni Dr David Jenkins o Amgueddfa Cymru. Cyfarfod wrth yr Eglwys Norwyaidd am 2.30pm. Hyd y daith: 2 awr. Pris: £5 y pen. Trefnir gan Bwyllgor Apêl Butetown, Grangetown, Glanyrafon, Sblot ac Adamsdown Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Manylion pellach: 07985-043633; sepj@sky.com.
Llun, 7 Ebrill
Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd, yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwraig wadd: Gwenno Dafydd. Manylion pellach gan Tony Couch (2075 3625 neu ajcouch@yahoo.co.uk).
Mawrth, 8 Ebrill
Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Parch. Cynwil Williams yn siarad am ‘Gyfeillion Dylanwadol’ am 7.30pm.
Sadwrn, 12 Ebrill
Theatr Bara Caws yn cyflwyno ‘Y Gobaith a’r Angor’ gan Dylan Rees yn Neuadd Llanofer, Treganna, Caerdydd. Tocynnau: 029-2063-1144 neu 01286-676335.
Mawrth, 15 Ebrill
Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Cyngerdd gan Gôr Cantemus am 7.30pm.
Gwener, 18 Ebrill
Cinio Mawreddog yng nghwmni Max Boyce, yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd am 8.00pm. Tocynnau: £30.00 yn cynnwys bwyd (3 cwrs). Noson ddwyieithiog (gwisg smart). Trefnir gan Bwyllgor Apêl yr Eglwys Newydd ac Ystum Taf ac ardal Mynydd Bychan, Llwynfedw, Gabalfa, Cathays a Parc y Rhath Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Manylion pellach: 029-2056-5658; SianLewis@MenterCaerdydd.org.
Sadwrn, 19 Ebrill
Bore coffi i ddysgwyr yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs gan Amanda Griffiths am 11.00. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys.
Sadwrn, 19 Ebrill
Noson yng nghwmni ‘Ar Lôg’ yng Nghlwb Trydan, Pontcanna. Trefnwyd gan Bwyllgor Apêl Llys-faen, Draenen Pen-y-graig (Thornhill) a Rhydri Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Sadwrn, 19 Ebrill
Côr Philharmonig Caerdydd. Cyngerdd yn cynnwys yr Offeren yn C gan Beethoven, yn Neuadd Gerdd y Brifysgol, Heol Corbett, am 7.30pm. Arweinydd: Alun Guy. Organydd: Robert Nicholls. Unawdwyr: Rhian Owen, Kate Woolveridge, Aled Wyn Davies a Tom Evans. Tocynnau: £7. Manylion pellach: 029-2062-6779.
Llun, 21 Ebrill
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. ‘Pawb a’i Farn’, yng nghapel Bethany am 7.30pm.
Mercher, 23 Ebrill
Darlith gan yr Athro Hywel Teifi Edwards ar y testun ‘Eos Morlais a’r Hen Denoriaid Cymreig’ yn Neuadd Oakdale, Amgueddfa Sain Ffagan am 7.15pm. Tocynnau £7. Fe’i trefnir gan Bwyllgor Apêl Croes Cwrlwys Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Iau, 24 Ebrill
Coffáu Hil-laddiad yr Asyriaid a’r Armeniaid, am 5.15pm ger Maen Coffa Hil-laddiad 1915 yn ardd gefn y Deml Heddwch, Parc Cathays, yn cael ei ddilyn gan ddarlith ar ‘Hil-laddiad yr Asyriaid 1915’ gan Sabri Atman, Amsterdam (Cyfarwyddwr Canolfan Seyfo) yn y Deml Heddwch am 5.30pm. Fe’i trefnir gan Cymdeithas Cyfeillgarwch Cymru-Armenia. Manylion pellach: 07718-982732; eilian@nant.wanadoo.co.uk.
Gwener, 26 Ebrill
Cymdeithas Eglwys y Crwys. Noson yng nghwmni Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd, am 7.30pm. Tocynnau: £5.
Mawrth, 29 Ebrill
Darlith Goffa G. J. Williams (dan nawdd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd). Darlith gan yr Athro Glyn E. Jones ar y testun ‘Golwg ar rai ffiniau tafodieithol ym Mrycheiniog’. Yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 5.30pm. Croeso cynnes i bawb.
Iau, 8 Mai
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Oedfa Wythnos Cymorth Cristnogol dan arweiniad y Parch. Glyn Tudwal Jones yng Nghapel y Crwys am 7.30pm.
Gwener, 9 Mai
Cylch Cadwgan. Y Prifeirdd Aled Gwyn a T. James Jones yn siarad ar y testun ‘Llwybrau Nest’ yn Neuadd yr Eglwys, Creigiau am 8.00pm. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi Gymreig.
Gwener, 9 Mai
Cyngerdd yng nghwmni Côr Poliffonig Caerdydd ac Elinor Bennett yn Eglwys Ebeneser, Heol Siarl, Caerdydd, er budd Gofal Canser Cymru.Yn ystod ail hanner y cyngerdd bydd y côr yn perfformio Requiem Faure.
Sadwrn, 17 Mai
Bore coffi i ddysgwyr yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs gan John Emyr am 11.00. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys.
Llun, 19 Mai
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cyngerdd Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, yng nghapel Bethel am 7.30pm. Tâl mynediad £5.
Llun, 19 Mai
Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. ‘Y fraich ddrewllyd a chlefydau anghyffredin eraill’ gan Meirion Llewelyn (Ysbyty Brenhinol Gwent). Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol.
Mercher, 4 Mehefin
Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. Noson gymdeithasol i orffen y tymor a chwblhau’r trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Yn festri Capel y Methodistiaid Saesneg, Windsor Road, Radur, am 7.30pm.
Gwener, 6 Mehefin
‘Sain, Cerdd a Sgandal!’ Noson gerddorol yng nghwmni Joy ac Alwyn Humphreys pan ddadlennir cyfrinachau rhyfeddol am gyfansoddwyr mawr y byd, ynghyd â pherfformiadau o’u gweithiau ar y piano. Er budd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd (Pwyllgor Apêl Cyncoed, Pen-y-lan, Y Rhath a Llanedern). Pris tocynnau: £6 (oedolion yn unig) Am 8:00pm. Manylion pellach: Rhun Jones (029-2075-5118 neu 07710-172206; rhunjones@aol.com).
Iau, 12 Mehefin
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. ‘Emynau a Thonau’r Tabernacl.’ Cyflwyniad gan Rob Nicholls a Robin Gwyndaf yng Nghapel y Tabernacl, Yr Ais, am 7.30pm.
Llun, 16 Mehefin
Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni Owen John Thomas, yng nghapel Bethany am 7.30pm.
Sadwrn, 5 Gorffennaf
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Stondin yng Ngŵyl Rhiwbina.
Sul, 6 Gorffennaf
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Cymanfa Ganu yng nghwmni Côr Aelwyd Hamdden Caerdydd, yng nghapel Beulah am 8.00pm. Arweinydd: Alun Guy. Organydd: Alun Jones.
Llun, 7 Gorffennaf
Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Gwibdaith.
28-31 Awst
Cyfeillion Carnhuanawc. Gwibdaith Haf Carnhuanawc i Gaeredin a Chanolbarth yr Alban. Amcangyfrif o’r gost: £275 i gyplau; £400 sengl. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Nans Couch: 029-2075-3625 neu Cath Jobbins: 029-2062-3275.
Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 029-2062-8754; ebost: JamesEW@caerdydd.ac.uk).
|