| ‘Ieuenctid Caerdydd yn pwyso a’r Gynghorwyr y Ddinas’
Diwedd mis Rhagfyr rhoddodd grwp o ieuenctid o Ysgolion Gyfun Glantaf, Plasmawr a Fitzalan bwysau ar Gyngor Caerdydd i ddarparu clybiau a gwasanaeth ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas. Gwnaeth y grwp ddangos fideo naethon nhw gynhyrchu i Gyngorwyr Cyngor Sir y Ddinas a’r Rhagfyr 15fed. Roedd y fideo yn trafod dymuniadau’r pobl ifanc i gael gweithgareddau tu allan i’r ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn dangos y diffyg mewn darpariaeth dwyieithog yn un o ganolfan au hamdden y ddinas. Dywedodd Lewis Roberts aelod o’r criw ieuenctid, “Roedden ni’n hapus ar y nifer helaeth o Gynghorwyr ac Uwch Swyddogion y Cyngor wnaeth droi lan, gobeithio’n nawr eu bod yn fodlon ymateb i’n gofynnion o gynyddu’r darpariaeth ieuenctid Cymraeg yn y ddinas”. Mae’r grwp wedi galw eu hunain yn “Cychwyn” am eu bod am gael rhywbeth hollol newydd ac maent yn cael cefnogaeth Partneriaeth Pobl Ifanc y Ddinas i ddatblygu eu syniadau. Y gobaith nawr yw y bydd cynghorwyr y ddinas yn
ymateb i’w cais ac yn cynnig gwel gwasanaeth ieuenctid trwy gyfrwng
y Gymraeg. Bydd criw Cychwyn yn cwrdd yn fuan yn y flwyddyn newydd
i drafod ymhellach. |
Byron Davies, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd yn trafod gyda rhai o aelodau y grwp Cychwyn ynglyn â’r cyflwyniad. |
| Criw
Cychwyn ar y rhaglen Ffeil ar 16 Tachwedd |
![]() |
Adroddiad Cychwyn
i ehangu darpariaeth Cymraeg Nôl yn mis Tachwedd 2004 sefydlwyd y grwp ‘Cychwyn’. Mae’r grwp yn gynrychiolaeth o bartneriaid sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd gan gynnwys Menter Iaith Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Ysgolion Cynradd ac Uwchradd y Sir a Swyddog Iaith Cyngor Sir Caerdydd. Pwrpas tymor byr y grwp oedd cael dealltwriaeth gwell o’r ddarpariaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd ac yna adnabod yr anghenion a chwilio am ffynonellau arian i ateb y galw. Buom yn llwyddiannus i dderbyn cyllid o bron i £5000 gan Gyngor Sir Caerdydd i wneud yr ymchwil. Rhan bwysig iawn o’r gwaith oedd yr ymgynghoriad cyson â gafwyd gyda’r plant a phobl ifanc drwy ymweliadau i Gynlluniau Chwarae, ysgolion, gweithleoedd, Cylchoedd Meithrin a hefyd diwrnod o ymghynghoriad yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd.
Fidio o ddiwrnod yr ymgynghoriad
|
YMGYNGHORIAD
CYCHWYN -
|
