Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg

SUT GALL DEFNYDDIO’R GYMRAEG HELPU EICH BUSNES?

Y mae statws cynyddol yr iaith Gymraeg yn chwarae rhan bwysig yn y bywiogrwydd sydd i’w deimlo yng Nghymru.  Y mae rôl i ddwyieithrwydd gweledol ar draws dinas Caerdydd, yn enwedig mewn byd busnes.

Yn gynyddol mae busnesau o bob maint yn defnyddio'r iaith Gymraeg i ychwanegu gwerth i'w cynnyrch a gwella'u gwasanaethau i gwsmeriaid.

Mae'n hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth yn cael eu cydnabod yn eang fel pwyntiau gwerthu unigryw. .  Mae defnyddio’r iaith yn dangos yn glir eich bod yn ymfalchïo yn y ffaith eich bod yn gwneud busnes yng Nghymru, a’ch bod yn parchu’r diwylliant a’r gymuned.  Mae’n ennyn ewyllys da a theyrngarwch ymhlith cwsmeriaid presennol a phosibl. Mae’n cyfoethogi’r gwasanaeth rydych yn ei ddarpar ac yn dangos gofal am gleintiau.

Gall Menter Iaith Caerdydd eich helpu i ddefnyddio'r Gymraeg er mwyn galluogi'ch busnes i ddod yn fwy cystadleuol a llwyddiannus.

Gallwn ni gynnig cyngor a chymorth arbenigol yn rhad ac am ddim.

Yr ydym yn bodoli er mwyn helpu pobl fel chi!

LLWYDDIANT GYDA BUSNESAU

BUSNESAU LLEOL YN CEFNOGI'R IAITH GYMRAEG

Yn gynyddol, mae busnesau bach yng Nghymru yn defnyddio'r Iaith Gymraeg i ychwanegu gwerth i'w cynnyrch a gwella'u gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth yn cael eu cydnabod yn eang fel pwyntiau gwerthu unigryw gan gwmnïau o bob math. Caiff ei adnabod fod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn ran hanfodol o ddatblygu cysylltiadau â chwsmeriaid a chleientiaid yng Nghymru.

Mudiad sydd yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol parthed defnyddio'r Iaith Gymraeg yn y sector preifat yw Menter Iaith Caerdydd, mudiad lefel gymunedol gyda'r nod o hybu ac ehangu'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Yn ddiweddar mae'r Fenter wedi cysylltu â nifer o fusnesau yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn eu busnes, yn pwysleisio pa mor bwysig i fusnes yw mabwysiadu polisïau dwyieithog. Cyflwynwyd pecyn sector preifat yn ogystal â arwydd drws dwyieithog "Ar Agor/Ar Gau". Cafwyd ymateb calonogol iawn gyda nifer yn awyddus iawn i arddangos yr arwydd drws yn ogystal â chyfieithu deunydd eu siop.

Hoffwn ddiolch i'r siopau am ddangos cefnogaeth a brwdfrydedd.

Os hoffech wybod neu os hoffech dderbyn pecyn ac arwydd, cysylltwch â Swyddog Datblygu Busnes Menter Caerdydd ar 02920565658 neu ebostio cyswllt

DATGANIAD YN YR ECHO!

YR ARWYDD A’R PECYN!

Cynnwys y pecyn...  >>>>>>>


CYNNWYS Y PECYN

Cyflwyniad…                    Pamffled y Fenter…

   

Geirfa Cymraeg i Fusnesau…

SIOPAU CEFNOGOL I’R GYMAREG!

CATHAYS

Lorenzas Ristorante Italiano, The Mad Hatters, Café Calcio, Forum Deli, Trianing House, Hoffi Coffi, Zio Pin, La Trattoria Molisana, Mina, Santa Sofia D’anabella, Big Momas Deli a Caffi Take a Break,

Lluniau>>>

Y RHATH

Halcyon Haze, Enfys(Cyfle Cymru), Cyber Center

Lluniau>>>

PONTCANNA A THREGANNA

Pulse Wholefoods, Mead Property Management, Learning Tree, Forecast, The Frame Shop, Smith and Teague Engraves, Costa Rica, The Dry Cleaners, Dricollis, Fruit Bowl, Hot Pantri, Pontcanna News, Barkways Florist, Shelleys Delicatessen a Roger Williams Jewellry Studio, Caffi Patagonia, Tuck Inn ac Oblong.

Lluniau>>>

CANOL Y DREF

Church Street- Topo Gigios, Postinos, Internet Exchange, Truffles, Browns a Booksales. Europa & Castle Welsh Craffts yn Stryd y Castell, Things Welsh (Duke Street Arcade), Pulcinella (Park Lane), Le Café Francais, The Rugby Shop ac Howell Petersen.

Lluniau >>>

ARDAL CAERDYDD

Oriel Washington (Penarth), Siop Lyfrau Windsor (Penarth), Playtime Palace, Field Way (Heol Maes y Coed), Davies Colour Ltd ac Olive Branch (Rhiwbeina).

Lluniau >>>

YSTUM TAF

Mega Munch, Easy Life Mobility, Thornes, Delason Unisex, Llandaf North Travel, Filling Station, Dortek Nationwide Ltd, Pioneer Printing, Beppy’s a Shellings.

Lluniau >>>

EGLWYS NEWYDD

La Petite, Sports Mad, Roger Walters, Lazarou Brothers, Whitsons, Birds Fish Market, Birds, Tanners, R & C Evans, Siop y Felin, Village Barber, Park Fruit Supply, Martin Player Butcher, Euphoria/Gorawen, Bar Brechdan Ozzys, Ophthalmic Opticians

Lluniau >>>


TREGANNA/ PONTCANNA


      

   Caffi Tuck In                             Caffi Patagonia

Shelleys Delicatessen             Barkways Florist

CANOL Y DREF

                       

Siop Rygbi                                              Siop Grefftau’r Castell

YSTUM TAF

                      

Mega Munch                                  Thorne’s Florist

EGLWYS NEWYDD

                                   

Birds- Siop Ffrwythau                      La Petite                            Caffi Coopers  

    

Bar Brechdan Ozzys                  Ophthalmic Opticians

CATHAYS             

                  

Lorenzas (Crwys Road).          Hoffi Coffi (Woodville Road)           

                      

Forum Deli (Crwys Road)           Santa Sofia (Crwys Road)              Caffi Calcio (Crwys Road)                      

Y RHATH

                     

Halcyon Daze             Le Mina Juice Bar                     La Trattoria Molissana

(Wellfiled Road)          (Albany Road)                           (Albany Road)                      

Enfys (Albany Road)                                 

LINCIAU DEFNYDDIOL BYD BUSNES…


Cliciwch ar y linc>>>

Nod ac amcan Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch, sef cymdeithas o bobl busnes Caerdydd a’r cyffiniau yw codi proffil y Gymraeg ym myd busnes yn y Brifddinas a De-Ddwyrain Cymru a rhoi cyfle i Gymry Cymraeg sydd mewn busnes o bob math i gyfarfod ac i drafod materion yn ymwneud â busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd busnes i ymuno â Chwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch.

Croesewir aelodau unigol ac y mae telerau arbennig ar gyfer aelodaeth gorfforaethol i gwmniau.

Cliciwch ar y linc>>>Tudalen Gartref Menter a Busnes

Cwmni datblygu economaidd yw Menter a Busnes, a sefydlwyd yn 1989, sy’n ceisio datblygu menter yn ei ystyr ehangach, a busnes yn benodol, fel rhan o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Cliciwch ar y linc>>>www.opportunitywales.co.uk

Cliciwch ar y linc>>>www.financewales.co.uk

Cliciwch ar y linc>>>www.cardiffchamber.co.uk/cym

Cliciwch ar y linc>>>www.wda.co.uk

Cliciwch ar y linc>>>www.ffatrifenter.com

 

Menter Caerdydd
Ty Avocet
88 Heol yr Orsaf
Ystum Taf
Caerdydd.
CF14 2FG
029 20565658
 Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Sir Caerdydd

Menter Caerdydd - Elusen gofrestredig rhif: 1098606 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 4576565

Eglwys Newydd Sblot Rhiwbeina Trefynach Mynydd Bychan Creigiau Trelai Llandaf Tyllgoed Rhymni Penylan Pontcanna Cathays Y Rhath Gabalfa Gwaelod y Garth Tongwynlais
Pentyrch Y Bae Llaneirwg Treganna Llysfaen Radyr Pentrepoeth Rhydlafar Pentwyn Cyncoed Pontprennau