< Dewisiadau    Cylchlythyrau Blaenorol > Rhif 1  Rhif 2  Rhif 3 Rhif 4 Rhif 5

NEWYDDION

HAF 2003

HWB ARIANNOL
I FENTER CAERDYDD

NAWDD TUAG AT
GOFAL PLANT

Mae Menter Caerdydd wedi derbyn nawdd sylweddol o £55,758 oddi wrth y Gronfa Cyfleoedd Newydd i agor Clybiau Gofal Gwyliau.
   Trefnir
Tri Chynllun Gofal ar gyfer gwyliau'r Haf, o 22 Gorffennaf i 15 Awst, rhwng 8.30yb a 5.30yp. Y pris yw £12 y dydd a byddant ar agor  yn:

    Ysgol Coed y Gof Beechley Drive, Pentrebaen
   
Canolfan Gymunedol Bethel Llanisien
   
Ysgol Treganna Radnor Road, Treganna

Mae croeso cynnes i blant 5 - 11 oed.  Dewch yn llu...mabolgamocs...gwibdeithiau...gweithdai dawns...nofio...gweithdai drama...crefftau a chwaraeon. 

Mae Cyngor Sir Caerdydd wedi cyhoeddi cefnogaeth ariannol uniongyrchol o £34,000 ar ffurf grant cymunedol i'r Fenter ar gyfer blwyddyn ariannol 2003/2004.

   Mae'r cymorth ariannol yma gan y Cyngor wedi bod yn hanfodol ac allweddol i ddatblygiad y Fenter ac i sicrhau sylfaen gadarn i ehangu'r ddarpariaeth a chyfleoedd i Gymry Cymraeg a dysgwyr ein prifddinas.

@ @  e - chlysur @ @


Mae 1000 o Gymry Caerdydd wedi cofrestru gyda
'e - chlysur' yn barod.  Trwy gofrestru cewch nodi'n union eich diddordebau boed chwaraeon, darllen, adloniant, tripiau a llawer mwy. Yn ddyddiol, derbyniwn wybodaeth oddi wrth gymdeithasau a sefydliadau lleol am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddod.

Bwriadwn, yn ogystal, trefnu cynlluniau gofal yn ystod gwyliau hanner tymor yr Hydref a Chwefror, y Pasg a'r Sulgwyn.

AGOR SWYDDFA NEWYDD

Os ydych chi eisiau'r holl wybodaeth yma ar flaenau eich bysedd, yna cofrestrwch ar unwaith!

Mae dwy ffordd o gofrestru, ewch i wefan Menter Caerdydd a chliciwch ar linc 'e-chlysur ' neu cysylltwch â'r swyddfa ar 029 20565658.

Symudodd Menter Caerdydd i Swyddfa newydd yn ddiweddar.  Heb os, mae'r newid swyddfa yn un amserol iawn gyda'r Fenter yn cryfhau, aeddfedu a thyfu. Yn ogystal â Swyddfa Newydd i'r Fenter, mae Logo newydd deniadol sydd werth i'w weld ar ffenestr a tho'r adeilad newydd.

   Mae croeso cynnes i bawb ymweld â'r Swyddfa yn Ystum Taf.  Dewch yn llu!

BUSNESAU
YN GEFNOGOL
I'R GYMRAEG

CYNLLUN
MEITHRIN 2003

Cyfle gwych i'ch plentyn gael chwarae, mwynhau a chwrdd â ffrindiau newydd mewn awyrgylch hapus, diogel a Chymreig.

22 Gorffennaf - 8 Awst 8.30 yb - 12.30 yh
Plant 3 - 5 oed
£6 y dydd
CANOLFAN IEUENCTID WATERHALL
Pentrebaen Road, Pentrebaen

Yn ddiweddar mae'r Fenter wedi cysylltu â nifer o fusnesau sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn eu busnes, yn pwysleisio bod rôl i ddwyieithrwydd  gweledol ar draws dinas Caerdydd, yn enwedig mewn byd busnes.

Cyflwynwyd pecyn busnes ac arwydd drws dwyieithog "Ar Agor/Ar Gau" i dros 200  o fusnesau ar hyd a lled Caerdydd, o ganol y ddinas, i Bontcanna, o'r Eglwys Newydd i'r Rhath.  Siopau a bwytai megis Caffi Calcio, Forum Deli, Lorenzas, Pulse Wholefoods, Hot Pantri, Shelleys Delicatessen, Europa, Le Cafe Francais, Olive Branch, Filling Station, La Petite, Birds, Tanners...sy'n enwi dim ond rhai!

Menter Caerdydd
Ty Avocet 88 Heol yr Orsaf Ystum Taf Caerdydd
www.mentercaerdydd.org
02920 565658 menter@caerdydd.org