Tafwyl
Tafwyl yw’r ŵyl flynyddol a sefydlwyd gan y Fenter yn 2004 i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.
Yn 2012 am y tro cyntaf erioed roedd Tafwyl yn ran o ŵyl Caerdydd. Roedd yr ŵyl yn lwyddiant ysgubol gyda dros 8,500 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu’r Gymraeg yn ffair Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ar 23 Mehefin, ac yna dros 1,500 o bobl yn mynychu gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau gŵyl Tafwyl yn ystod yr wythnos a ddilynodd.
Eleni byddwn yn adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl ac unwaith eto yn cynnal prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, ar Fehefin 15fed.
Bydd Gŵyl Tafwyl yn parhau am weddill yr wythnos yn dilyn y ffair hyd at Fehefin 21ain. Bydd llu o ddigwyddiadau cyffrous ar draws y ddinas mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys Chapter, Clwb Ifor a Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Gyda digwyddiadau llenyddol, hanesyddol, gigs, comedi, ffilm, chwaraeon, dramâu, digwyddiadau i blant meithrin, a gweithgareddau i ddysgwyr, yn sicr fydd rhywbeth at ddant pawb!
Am fwy o wybodaeth ewch draw i www.tafwyl.org
Blasu Cwrw gyda Chwrw Llŷn
Ffair Tafwyl - Castell Caerdydd
Bake Off Tafwyl - oedolion
Ffair Tafwyl - Castell Caerdydd
Bake Off Tafwyl - dan 16
Ffair Tafwyl - Castell Caerdydd
Bake Off Tafwyl - dan 11
Ffair Tafwyl - Castell Caerdydd
Gwinoedd o Gymru a Phatagonia – Sesiwn blasu gwin gyda Blas ar Fwyd
Ffair Tafwyl - Castell Caerdydd
Blasu Caws a Gwin gyda Caws Cenarth a Blas ar Fwyd
Ffair Tafwyl - Castell Caerdydd
Teithiau Castell Caerdydd - 16.30
Castell Caerdydd
Teithiau Castell Caerdydd - 15.30
Castell Caerdydd
Teithiau Castell Caerdydd - 14.30
Castell Caerdydd
Teithiau Castell Caerdydd - 13.30
Castell Caerdydd
Teithiau Castell Caerdydd - 12.30
Castell Caerdydd
Am wybodaeth pellach: 029 2068 9888
neu
llinoswilliams@mentercaerdydd.org


