Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Cofiwch Dryweryn

Dere i Bwrlwm i weld y Sioe Cofiwch Dryweryn! Ysgol fach, llawn bwrlwm, gyda plant bendigedig, oedd Ysgol Celyn ym mhentre’ Capel Celyn. Martha Roberts oedd y Brifathrawes wnaeth gloi drws yr ysgol am y tro olaf ym mis Gorffennaf 1963.

Yng nghwmni Martha fe glywn ni'r stori am y daith o Gwm Celyn i Lerpwl; am y peiriannu mawr wnaeth chwalu waliau’r ysgol, ac am ymdrechion dewr y trigolion lleol. Ond er taw ofer fu’r ymdrech, daw gobaith ar ddiwedd y sioe wrth i Martha annog y plant i ddal yn dynn yn y stori, yn union fel wnaeth hi ddal ei gafael ar oriad Ysgol Celyn. 

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro!

Pris: Am Ddim

Bwrlwm Pasg 2024

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn trefnu Bwrlwm Pasg 2024! Byddwn yn rhedeg y cynllun chwarae, sydd am ddim i bob plentyn Dosbarth Derbyn - Blwyddyn 6, yn y lleoliadau yma! Pa leoliad sydd agosach i chi? Fel arfer, mae'r arlwy sy'n cael ei drefnu yn eang ym mhob lleoliad, sef celf a chrefft, chwaraeon, gemau, byrbrydau iach ayyb. Mi fydd sesiynau chwaraeon mwy penodol yn Ysgolion y Berllan Deg, Bro Eirwg ac Hamadryad, a chwarae meddal yn Ysgolion Glan Morfa a Coed y Gof.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth pellach yn ystod y gwyliau ar FB, Insta a Trydar/X!

Am faterion anghenion cefnogi cysylltwch gyda mari@mentercaerdydd.cymru

 

Pris: Am Ddim

Drama Mawr y Dre!

Dewch i ymuno â Fflur a Niamh mewn sesiynau drama ar foreau Sadwrn! Diddordeb mewn perfformio, sgriptio, neu gefn llwyfan, dyma’r clwb i ti!

Pris: £28

Dawns a Drama Bach y Dre!

Dewch i ymuno â Fflur a Niamh mewn sesiynau hwyliog dawns a drama ar foreau Sadwrn! Mae'r sesiynau poblogaidd yma yn llawn hwyl i fagu hyder corfforol a llafar!

Pris: £24