Tafwyl
Am yr wythfed flwyddyn yn olynol bydd Tafwyl yn digwydd yng Nghaerdydd rhwng 23 -29 Mehefin 2012.
Bydd Tafwyl 2012, mewn partneriaeth a Chyngor Caerdydd, yn ddigwyddiad arbennig a chyffrous fydd ar raddfa llawer mwy na Tafwyl y blynyddoedd cynt. Am y tro cyntaf erioed bydd ffair yr ŵyl ar y 23ain o Fehefin yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, ac yn rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Caerdydd.
Bydd stondinau amrywiol yn y ffair yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig; yn ogystal â gweithdai a sesiynau llenyddol, cerdd, comedi, celf, coginio a drama. Bydd prif lwyfan gyda pherfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop mwyaf llwyddiannus y sîn gerddoriaeth Gymreig, sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon, a gweithgareddau i blant o bob oedran.
Yna, fydd llu o ddigwyddiadau cyffrous ar draws y ddinas mewn amryw o leoliadau am yr wythnos yn dilyn y ffair.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a llinoswilliams@mentercaerdydd.org
Am wybodaeth pellach: 029 2068 9888
neu
llinoswilliams@caerdydd.org











