Gwirfoddolwyr / Swyddi
Swyddi
Arwenyddion Lefel 3 , Staff Cynorthwyol Lefel 2 a Cynorthwywyr Chwarae
Mae Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg yn chwilio am unigolion addas a brwdfrydig i weithio ar ein gwasanaethau Cynlluniau Gofal a Bwrlwm yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.
Lleoliadau
- Ysgol Melin Gruffydd, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
- Ysgol Treganna, Treganna, Caerdydd
- Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri, Bro Morgannwg
- Ysgol Nant Caerau, Trelai
- Ysgol Coed y Gof, Pentrebane
- Ysgol Pen y Pil, Trowbridge
- Ysgol Berllan Deg, Penylan
- Ysgol Glan Morfa, Sblot
- Ysgol Mynydd Bychan, Mynydd Bychan
Cyfnodau Gweithio
- Hanner Tymor Chwefror
- Gwyliau Pasg (ag eithrio’r Gwyliau Banc)
- Hanner Tymor Sulgwyn (ag eithrio’r Gŵyl Banc)
- Gwyliau Haf (4 wythnos cyntaf)
- Hanner Tymor Hydref
Bydd hefyd disgwyl gweithio hyd at 2 ddiwrnod pob ochr i’r Cynlluniau Gofal, ar sail hyblyg (flexi).
Tâl
Arweinydd Lefel 3 - £10.40 yr awr
Cynorthwydd Lefel 2 - £5.75 - £7.95 yr awr
Cynorthwydd Chwarae - Isafswm cyflog Cenedlaethol
am fwy o wybodaeth, cysylltwch a leanne@mentercaerdydd.cymru.
Gwirfoddoli
Hoffech chi wirfoddoli gyda Menter Caerdydd?
'Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a brwdfrydig i wirfoddoli mewn sesiynau Amser Stori ar y cyd rhwng Llyfrgelloedd Caerdydd, boreau a nosweithiau dysgwyr yn y Mochyn Du a Chapter a sesiynau gyda'r henoed.
Cwblhewch y ffurflen isod a'i ddanfon at Menter Caerdydd, 42 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerydd, Llanisien, CF14 5GG
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda leanne@mentercaedydd.cymru
02920 689888